I ddathlu holl gyffro’r Eisteddfod eleni estynnwn wahoddiad
i bob
ysgol gymryd
rhan yng nghystadleuaeth fawr t-hwnt.
I ennill, rhaid i’ch ysgol chi gynhyrchu llyfr wedi ei anelu
at blant
ar thema ‘Eisteddfod’. Gall y llyfr fod ar gyfer unrhyw
oedran
o blant (oed cynradd neu uwchradd), ac ar ffurf llyfr stori-a-llun,
llyfr ffeithiol, llyfr taith, dyddiadur, stori fer, neu beth bynnag.
Ni ddylai’r llyfr fod yn fwy nag 16 tudalen o hyd, a does
dim
disgwyl iddo fod wedi’i lamineiddio na’i ‘orffen’
mewn dull
proffesiynol.
neu wrth ymweld â phabell t-hwnt ar faes yr Eisteddfod cyn
amser
cinio dydd Llun.
Bydd yr ysgol fuddugol yn ennill gwerth £60.00 o adnoddau
o’i
dewis ei hun (o blith y llyfrau a’r adnoddau ym mhabell
t-hwnt ar
faes Eisteddfod yr Urdd a/neu o gatalogau cyfredol y Cyngor
Llyfrau ac AADGOS).
Dewisir yr enillydd gan Caryl Lewis, awdur Martha,
Jac a Sianco (Llyfr y Flwyddyn 2005) a sawl llyfr poblogaidd
i blant, gan gynnwys
cyfres Byd Boncyrs
.
Eisteddfod
Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru SIR GAR
19/05/07